
Cyfrol hardd, llawn lliw ac amrywiaeth sy'n cyflwyno'r Wyddor Gymraeg i blant blwydd i oedran cynradd, wedi'i chynllunio a'i darlunio gan yr artist Luned Aaron. Ewch ar daith natur ABC gyda'ch plentyn. Dechreuwch trwy edmygu delweddau hardd y gyfrol hon, cyn mentro allan i'r ardd i weld beth allwch chithau ei ganfod. Fe gewch chi a'ch plant eich swyno!