
- Llawlyfr ffotograffig am fywyd gwyllt Cymru - yr holl rywogaethau cyffredin, a rhai prin. Dyma hoff lyfr natur Iolo Williams a'i ddewis personol ef ar gyfer ei addasu i'r Gymraeg.
- Disgrifiadau o adar; marmaliaid, pysgod, trychfilod, gwyfynnod, ymlusgiaid, amffibiaid, a chreaduriaid di-asgwrn cefn y byddai naturiaethwr brwd yn dod ar eu traws yn ein gwlad yn ogystal â'r holl blanhigion cyffredin.
- Mae'r addasaid hwn o gyfrol Paul Sterry yn cynnig cynghorion ar gadwraeth; manylion y rhywogaethau allweddol mewn gwahanol gynefinoedd, yn ogystal â gwybodaeth an y mannau gorau i ymweld â nhw ar draws gwledydd Prydain.
- Mae cod symbol ar bob adran sy'n cyfeirio'r darllenydd yn ddidrafferth ac mae rhywogaethau'n cael eu grwpio yn ôl eu perthynas naturiol a'u nodweddion cyffredin.